Swyddog Ymgysylltu Cymuned Canser – Gogledd Cymru/ Cancer Community Engagement Officer – North Wales

Location: Home Based North Wales

Salary: £20,800

Appointment Type: Fixed Term

Closing Date: 22 September 2024

Specific Hours: 28

Swyddog Ymgysylltu Cymuned Canser – Gogledd Cymru/ Cancer Community Engagement Officer – North Wales

*SCROLL DOWN FOR ENGLISH*

28 awr yr wythnos, hyblyg

Contract Tymor Penodol 1 Flwyddyn

Lleoliadau gwaith: Gartref, gan deithio’n rheolaidd yng ngogledd Cymru. Y Brif Swyddfa yng Nghaerdydd (achlysurol)

Cyflog: £20,800 y flwyddyn

Bydd angen i chi fod yn byw/gweithio yng ngogledd Cymru. Gan weithio'n bennaf o gartref, bydd angen i chi allu teithio ledled gogledd Cymru o ddydd i ddydd. Gall hyn hefyd gynnwys rhannau o'r canolbarth yn agos at eich ardal. Efallai y bydd angen teithio’n achlysurol hefyd bob chwe mis i'n Prif Swyddfa yng nghanol dinas Caerdydd.

Dylai ymgeiswyr fod ar gael am gyfweliad ar (neu o gwmpas): 30 Medi

Rydym am i’ch cais ddangos i ni sut mae eich sgiliau’n cyd-fynd â hanfodion manyleb y swydd er mwyn dangos i ni eich bod:

  • Wedi adnabod ac ymwneud â grwpiau cymunedol amrywiol
  • Yn meddu ar y gallu i gyflawni prosiectau, gan gynnwys mewnwelediad a chasglu data, hyd at derfynau amser llym
  • Yn meddu ar ddealltwriaeth dda o faterion cyfle cyfartal a'r rhwystrau sy'n wynebu pobl a effeithir gan ganser
  • Yn meddu ar brofiad ymarferol o weithio gydag amrywiaeth eang o bobl
  • Yn meddu ar brofiad o weithio a/neu ddeall anghenion grwpiau nas clywir yn aml e.e. wedi'u heithrio'n ddigidol
  • Wedi goruchwylio, datblygu neu weithio gyda gwirfoddolwyr
  • Sgiliau cyfathrebu, ysgrifenedig a threfnu rhagorol, a sgiliau rhyngbersonol
  • Yn meddu ar y gallu i flaenoriaethu tasgau a chwrdd â therfynau amser
  • Yn meddu ar agwedd chwaraewr tîm ac yn gallu gweithio'n annibynnol a gwneud penderfyniadau synhwyrol hefyd
  • Yn meddu ar sgiliau cyflwyno da ac yn gallu hwyluso grwpiau

Rydyn ni’n recriwtio!

Rydym yn frwd dros ymwneud â chymunedau lleol Cymru i fynd i’r afael ag anghenion lleol o ran canser. Rydym am gynrychioli'r hyn sydd ei angen ar ein cymunedau a hyrwyddo ymwybyddiaeth o'n gwasanaethau cymorth canser i wneud gwahaniaeth i bobl a effeithir gan ganser.

I gefnogi ein gwaith yng ngogledd Cymru, rydym yn gobeithio tyfu ein rhwydwaith o gysylltiadau cymunedol a gwirfoddolwyr. Felly, rydym wedi cael ein hariannu i recriwtio Swyddog Ymgysylltu Cymuned Canser leol ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru. Fel rhan o dîm ehangach Cymru, byddwch yn cynrychioli ein hymgysylltiad cymunedol yn y rhanbarth hwn i gynyddu’r ymwybyddiaeth o’n gwaith ac adeiladu rhwydwaith o wirfoddolwyr i'ch helpu i wneud hynny.

Mae'r swydd yn ymwneud â dod o hyd i gysylltiadau lleol a chynnig atebion i ddod â phobl a effeithir gan ganser at ei gilydd lle maent yn byw a'u helpu i gael eu clywed a chael y cymorth cywir sydd ei angen arnynt. 

Drwy weithio gyda gwirfoddolwyr lleol, byddwch yn cwmpasu, yn meithrin ac yn cryfhau partneriaethau yn lleol ac yn rhanbarthol o ran helpu ein cymunedau canser. Rydym yn gweithio gyda'n defnyddwyr gwasanaeth yn gyfannol yng Ngofal Canser Tenovus. Felly, byddwch hefyd yn cyfeirio ar draws ein holl wasanaethau cymorth fel Cwnsela, ein Llinell Gymorth dan arweiniad nyrsys, corau Sing with Us, a'n Hunedau Cymorth Symudol yn ogystal â gyda'ch adrannau a'ch cyd-weithwyr ehangach ar draws y sefydliad.

Felly, os ydych chi'n angerddol am wneud i leisiau nas clywir gael eu clywed mewn perthynas â chanser yng Nghymru, gallai hon fod yn swydd newydd gyffrous a gwerth chweil lle cewch weld yn uniongyrchol y gwahaniaeth y gallwch CHI ei wneud i bobl pobl a effeithir gan ganser drwy ymuno â ni. 

Y sgiliau a'r profiad rydym yn chwilio amdanynt yw: rheoli gwirfoddolwyr, recriwtio, ymgysylltu â'r gymuned, cyfathrebu, cyflwyno, rheoli perthynas, hyrwyddo, cyfranogiad cymunedol

Amdanom Ni

Mae mwy o bobl nag erioed yn byw gyda chanser yng Nghymru, gyda thua 20,000 o bobl yn cael diagnosis bob blwyddyn.

Rydyn ni’n rhoi cymorth, gobaith, a llais i bawb a effeithir gan ganser. Rydyn ni’n deall sut gall canser effeithio ar bob agwedd o fywyd a sut mae’n effeithio ar deuluoedd a ffrindiau hefyd. Mae ein hystod eang o wasanaethau yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth arbenigol i bobl sy’n byw â chanser, a’u hanwyliaid.

Ynghyd â’n cymuned ysbrydoledig o staff, gwirfoddolwyr, a chefnogwyr, rydym yn benderfynol o fod yma i bawb yr effeithir heddiw, yfory, a thu hwnt.

Proses Recriwtio

Gwnewch gais gyda'ch CV a'ch llythyr eglurhaol sy'n mynd i'r afael â'r meini prawf a nodir ym Manyleb y Person trwy wefan Gofal Canser Tenovus.

Cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl oherwydd weithiau byddwn yn cau ein hysbysebion yn gynnar os byddwn yn derbyn digon o geisiadau ar gyfer y rôl. 

Gallwch hefyd ymweld â'n tudalennau Gweithio i ni a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi ac mae copi o'r disgrifiad swydd a manyleb y person i'w gweld yma: 

https://www.tenovuscancercare.org.uk/media/pqlpf0xc/job-description-cancer-community-engagement-officer.pdf

Yng Ngofal Canser Tenovus rydym wedi ymrwymo i wneud ein gweithle yn amrywiol ac yn gynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn ac yn gallu bod yn ddilys iddyn nhw yn y gwaith. Rydym yn falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal nad yw'n gwahaniaethu ar sail Nodweddion Gwarchodedig Deddf Cydraddoldeb 2010. Bydd pob ymgeisydd cymwys yn cael ystyriaeth gyfartal ar gyfer cyflogaeth a byddwn yn addasu ein prosesau recriwtio lle y gallwn i gefnogi pobl sy'n dymuno ymuno â ni.

Os gallwn eich cefnogi gyda'ch cais o gwbl, cysylltwch â ni yn people@tenovuscancercare.org.uk 

 

28 hours a week, flexible

1 Year Fixed Term Contract

Work locations: Home with regular North Wales travel. Cardiff Head Office (occasional)

Salary: £20,800 per annum

You’ll need a North Wales work/home base. Working mainly from home you’ll need to be able to travel across the North Wales region day to day. This can also cover parts of mid Wales near to your patch. There may also be occasional travel around every 6 weeks to our Cardiff City Centre Head Office.

Candidates should be available to interview on or around: 30th September

We’re looking for your application to show us where your skills match the essentials of the job specification to show us that you’ve:

  • Identified and engaged with various community groups
  • The ability to deliver projects, including insight and data gathering, to strict deadlines
  • Good understanding of equal opportunities issues and the barriers faced by those affected by cancer
  • Practical experience in working with a diverse range of people
  • Experience of working and/or understanding the needs of seldom heard groups e.g. digitally excluded
  • Supervised, developed or worked with volunteers
  • Excellent communication, written and organisational skills and interpersonal skills
  • The ability to prioritise tasks and meet deadlines
  • A team player attitude and can also able to work independently and make sensible decisions
  • Good presentation skills with a proven ability to facilitate groups

We’re recruiting!

We’re passionate about engaging with local Welsh communities to engage with local needs when it comes to cancer. We want to represent what our communities need and to promote awareness of our cancer support services to make a difference to those affected by cancer.

To support our work in North Wales we’re looking to grow our network of community contacts and volunteers. So, we’ve been funded to recruit a local Community Engagement Officer to cover the North Wales region. As part of a wider Wales team you’ll represent our community engagement in this patch to grow awareness of US and build a volunteer network to help you do that.

The role’s all about finding local connections and offering solutions to bring people affected by cancer together where they live and helping them be heard, listened to and to get the right support they need

Working with local volunteers you’ll scope out, build and strengthen partnerships on a local and regional basis when it comes to helping our cancer communities. We work with our service users holistically at Tenovus Cancer Care. So, you’ll also refer across all our own support services such as Counselling, our nurse led Support Line, Sing With Us and our Mobile Support Units as well as with your wider departments and colleagues across the organisation.

So, if you’re passionate about making unheard voices be listened to when it comes to cancer in Wales this could be an exciting and rewarding new role where you’ll see first-hand the difference YOU can make to people affected by cancer by joining US.

Skills and experience we’re looking for are: volunteer management, recruitment, community engagement, communication, presenting, relationship management, promotions, community participation

About us

More people than ever are living with cancer in Wales, with around 20,000 people diagnosed every year.

We give help, hope, and a voice to everyone affected by cancer. We understand how cancer can impact every aspect of life and how it affects families and friends too. Our wide range of services offer information, advice, and specialist support to people living with cancer, and their loved ones.

Together with our inspiring community of staff, volunteers, and supporters, we’re determined to be here for everyone affected today, tomorrow, and beyond.

Recruitment Process

Please apply with your CV and covering letter addressing the criteria stated in the Person Specification via the Tenovus Cancer Care website

Please submit your application as soon as possible as sometimes we do close our adverts early if we receive sufficient applications for the role.

You can also visit our Work for us pages that give you more information and a copy of the job description and person specification can be found here: 

https://www.tenovuscancercare.org.uk/media/pqlpf0xc/job-description-cancer-community-engagement-officer.pdf

At Tenovus Cancer Care we’re committed to making our workplace diverse and inclusive where everyone feels they belong and can be their authentic selves at work. We’re proud to be an equal opportunities employer who does not discriminate based on the Equality Act 2010’s Protected Characteristics. All qualified applicants will receive equal consideration for employment and we will adjust our recruitment processes where we can to support people who wish to join us.

If we can support you with your application at all please contact us at people@tenovuscancercare.org.uk

Apply now